Agenda - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 21 Mawrth 2018

Amser y cyfarfod: 13.30
 


128(v5)  

------

<AI1>

1       Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

</AI1>

<AI2>

2       Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

</AI2>

<AI3>

3       Cwestiynau Amserol

(20 munud)

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

Mick Antoniw (Pontypridd): A wnaiff Llywodraeth Cymru ddatganiad am oblygiadau adroddiad y Comisiwn Hapchwarae ar hapchwarae yng Nghymru?

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Yn sgil y cyhoeddiad heddiw gan Lywodraeth y DU i gynyddu cyflogau dros filiwn o staff y GIG yn Lloegr, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflogau'r GIG yng Nghymru?

</AI3>

<AI4>

4       Datganiadau 90 Eiliad

(5 munud)

 

</AI4>

<AI5>

5       Dadl: Egwyddorion Cyffredinol Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru)

(60 munud)

NDM6696 Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.83:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru).

Gosodwyd Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 2 Hydref 2017.

Dogfennau ategol

Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau – 9 Mawrth 2018
Ymateb y Pwyllgor Cyllid – 20 Mawrth 2018

Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol – 9 Mawrth 2018
Ymateb y Pwyllgor Cyllid – 20 Mawrth 2018


</AI5>

<AI6>

6Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) – Trafnidiaeth Gymunedol

(60 munud)

NDM6666

Mark Isherwood (Gogledd Cymru)
Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru)
Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod gwasanaethau trafnidiaeth gymunedol yn chwarae rhan hanfodol yn ein cymunedau, yn darparu trafnidiaeth ar gyfer pobl sy'n wynebu rhwystrau rhag defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a phreifat, yn cefnogi pobl i fyw'n annibynnol a chael mynediad i wasanaethau hanfodol, gan hefyd liniaru materion yn ymwneud ag unigrwydd ac arwahanrwydd.

2. Yn nodi'r pryder am ymgynghoriad presennol Adran Drafnidiaeth y DU ar drwyddedau trafnidiaeth cymunedol (adran 19/22) ac effaith bosibl hyn ar wasanaethau yng Nghymru.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) gweithio mewn partneriaeth â'r sector trafnidiaeth gymunedol a chyrff cyhoeddus i sicrhau bod y sector yn gallu parhau yn ei rôl unigryw gan ddarparu dewisiadau trafnidiaeth pwrpasol ar gyfer pobl sy'n agored i niwed, er mwyn sicrhau mynediad i wasanaethau tra bod y broses ymgynghori yn mynd rhagddi;

b) datblygu cynlluniau wrth gefn i liniaru unrhyw effaith ar ddarpariaeth trafnidiaeth drwy wasanaethau bws mini a gyflenwir drwy drwyddedau adran 19 a 22; 

c) cyhoeddi strategaeth glir sy'n cydnabod yr agwedd drawsbynciol ar ddarparu trafnidiaeth gymunedol ar draws adrannau Llywodraeth Cymru wrth gyflawni nodau strategol Llywodraeth Cymru;

d) darparu sefydlogrwydd sydd ei fawr angen ar gyfer y sector drwy symud tuag at gytundebau ariannu tair blynedd i alluogi sefydliadau i ddatblygu a bwrw ymlaen â chynlluniau, i sicrhau mwy o gynaliadwyedd a dull mwy strategol o ddarparu gwasanaethau; ac

e) sicrhau ymgysylltiad â phartneriaid perthnasol a rhanddeiliaid ledled Cymru i lywio ymateb Llywodraeth Cymru i'r ymgynghoriad, ac i sicrhau dealltwriaeth yn y sector o safbwynt Llywodraeth Cymru. 

Ymgynghoriad Adran Drafnidiaeth y DU ar drwyddedau trafnidiaeth cymunedol (Saesneg yn unig)

Cefnogwyr:

Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)
Russell George (Sir Drefaldwyn)

</AI6>

<AI7>

7       Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig – Gohiriwyd tan 18 Ebrill

(0 munud)

</AI7>

<AI8>

8       Cyfnod Pleidleisio

 

</AI8>

<AI9>

9       Dadl Fer

(0 munud)

Ni chyflwynwyd cynnig.

</AI9>

<AI10>

10   Dadl: Cyfnod 3 y Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru)

(120 munud)

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, caiff y gwelliannau eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn ymddangos yn y Bil.

Mae’r gwelliannau wedi cael eu grwpio at ddibenion y ddadl a byddant yn cael eu trafod fel a ganlyn:

1. Egwyddorion a llywodraethu amgylcheddol
9

2. Dyletswydd i adrodd ar gydsyniad Gweinidogion Cymru (Adrannau 14 a 15)
3

3. Diddymu’r Ddeddf
1, 2, 4, 5, 6, 8

4. Gweithdrefnau – gwelliant technegol
7

Dogfennau ategol
Bil Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru), fel y’i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 2
Memorandwm Esboniadol
Rhestr o Welliannau wedi’u didoli
Grwpio Gwelliannau

</AI10>

<AI11>

11   Dadl: Cyfnod 4 y Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru)

(15 munud)

</AI11>

<TRAILER_SECTION>

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 17 Ebrill 2018

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>